|
Rhif y ddeiseb: P-06-1265 Teitl y ddeiseb: Dylid newid enw ward etholiadol newydd Saltney, Sir y Fflint i "Saltney a Saltney Fferi". Geiriad y ddeiseb: Mae'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chyllid wedi penderfynu mai'r enw ar gyfer ward unigol newydd tref Saltney yn Sir y Fflint fydd "Saltney Fferi". Credwn fod hwn yn benderfyniad sy’n seiliedig ar gamgymeriad yn adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a gall arwain at ddryswch ymhlith trigolion lleol mewn etholiadau.
|
Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) broses gyfreithiol ar gyfer cynnal adolygiadau o ffiniau ac etholaethau yng Nghymru. Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) sy'n gyfrifol am gynnal yr adolygiadau hyn. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus eang, sy'n cynnwys cyhoeddi cynigion drafft ar gyfer pob Sir yng Nghymru, mae'r Comisiwn yn cyhoeddi ac yn cyflwyno ei argymhellion terfynol i Weinidogion Cymru.
Yna, mae argymhellion terfynol y Comisiwn yn ddarostyngedig i gyfnod o chwe wythnos pan ellir cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru. Yna, Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu sut i symud ymlaen, ac a ddylid gweithredu argymhellion y Comisiwn trwy Orchymyn.
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn gorff annibynnol a noddir gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf 2013. Gall y Comisiwn wneud gwaith ar ei liwt ei hun, ar gais prif gyngor mewn rhai amgylchiadau neu yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
Ar 23 Mehefin 2016, cyhoeddodd Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd Ddatganiad Ysgrifenedig yn gofyn i'r Comisiwn ailgychwyn ei raglen adolygu etholiadol 10 mlynedd. Byddai gan y rhaglen amserlen newydd wedi'i blaenoriaethu, gyda disgwyliad y byddai pob un o'r 22 adolygiad etholiadol yn cael eu cwblhau mewn pryd i'r trefniadau newydd gael eu rhoi ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.
Dros amser, oherwydd newidiadau neu symudiadau yn y boblogaeth, efallai y bydd angen gwneud newidiadau i ffiniau ardaloedd cymunedol neu drefniant etholiadol yn rhai o’r 22 prif ardaloedd cyngor yng Nghymru neu bob un ohonynt. Gall y Comisiwn wneud argymhellion ar nifer o faterion, gan gynnwys y nifer briodol o aelodau etholedig ar gyfer pob prif gyngor, ffiniau wardiau etholiadol ac a ddylai ward fod yn aml-aelod ai peidio.
Gall y Comisiwn wneud argymhellion ar drefniadau etholiadol i Weinidogion Cymru y mae'n teimlo sydd er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae hyn wedi ei nodi yn adran 21(3) o Ddeddf 2013. Yn ei ddogfen Adolygiadau Etholiadol: Polisi ac Ymarfer, mae'r Comisiwn yn nodi:
Bydd y Comisiwn yn ceisio darparu'r lefel orau o gydraddoldeb etholiadol ar gyfer pob ardal sy'n cael ei hadolygu a bydd yn cymryd pob achos yn ôl ei deilyngdod. Mae'r Comisiwn o'r farn mai dim ond trwy dystiolaeth glir o ffactorau cydbwyso eraill, fel cysylltiadau lleol neu ystyriaethau perthnasol eraill, y gellir cyfiawnhau gwyro o'r gymhareb gyfartalog ar gyfer y cyngor.
Mae'r ffordd y mae'r Comisiwn yn cynnal adolygiad etholiadol yn cael ei ddiffinio gan y Ddeddf; trwy ei Adolygiadau Etholiadol: Dogfen Polisi ac Ymarfer; a thrwy gyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. Mae canllawiau'r Comisiwn ar gyfer adolygiadau etholaethau yn nodi'r gweithdrefnau a'r fethodoleg y mae'n bwriadu eu mabwysiadu mewn perthynas ag adolygiadau, gan gynnwys ynghylch newidiadau i enwau wardiau etholiadol. Mae’n nodi:
Pan fydd y Comisiwn yn cynnig ffurfio wardiau etholiadol newydd, bydd y Comisiwn hefyd yn awgrymu enwau ar gyfer y wardiau newydd. Lle bo hynny’n briodol, bydd y Comisiwn yn cynnig enwau Saesneg a/neu Gymraeg amgen ar gyfer y wardiau newydd…
Yn ystod y cyfnod ymgynghori, mae’r Comisiwn yn croesawu awgrymiadau am enwau gwahanol yn Gymraeg a/neu Saesneg fel y bo’n briodol. Mae’r Comisiwn yn ffafrio enwau sy’n gysylltiedig â’r ardal dan sylw.
Mae'r rhaglen gyfredol o adolygiadau etholaethau bellach wedi’i chwblhau, gyda Gorchmynion wedi'u gwneud ar gyfer pob un o'r 22 o ardaloedd Prif Gynghorau.
Dechreuodd adolygiad etholiadol Sir y Fflint ym mis Hydref 2018 pan gynhaliodd y Comisiwn ymgynghoriad cychwynnol gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol yn yr ardal rhwng 1 Tachwedd 2018 a 23 Ionawr 2019. Cyhoeddwyd adroddiad cynigion drafft ar gyfer y Trefniadau Etholiadol i Gyngor Sir y Fflint ym mis Awst 2019.
Yna, cynhaliodd y Comisiwn gyfnod pellach o ymgynghori ar y cynigion drafft rhwng 5 Medi 2019 a 27 Tachwedd 2019.
Cyflwynwyd Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer y trefniadau etholiadol yn y dyfodol ar gyfer Sir y Fflint gerbron Gweinidogion Cymru ym mis Mehefin 2020.
Yn ei Adroddiad Argymhellion Terfynol mae’r Comisiwn yn nodi:
Derbyniodd y Comisiwn 118 o gynrychiolaethau gan Gyngor Sir y Fflint, 13 o gynghorau tref neu gymuned, 21 ar ran cynghorwyr sir (naill ai’n unigol neu mewn grwpiau), 11 o Gynghorwyr Tref neu Gymuned, 11 corff â buddiant a 61 aelod o’r cyhoedd. Ystyriodd y Comisiwn yr holl gynrychiolaethau hyn yn ofalus cyn iddo lunio ei argymhellion.
Ceir crynodeb o’r cynrychiolaethau hynny yn Atodiad 5 i’r Adroddiad Argymhellion Terfynol.
Mae'r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:
§ cyngor â 66 o aelod, sef gostyngiad o’r 70 aelod presennol. Mae hyn yn arwain at gyfartaledd sirol argymelledig o 1,809 o etholwyr yr aelod.
§ 42 ward etholiadol, gostyngiad o’r 57 o wardiau presennol.
§ 23 ward aml-aelod yn y Sir sy'n cynnwys 22 ward etholiadol dau aelod ac un ward etholiadol tri aelod.
Dechreuodd cyfnod statudol o chwe wythnos ar gyfer cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru o'r dyddiad y cyflwynwyd argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cymru.
Yn ei adroddiad argymhellion terfynol ar gyfer ardal Sir y Fflint, argymhellodd y Comisiwn gyfuno dwy ward bresennol (Saltney Cyffordd yr Wyddgrug a Saltney Stonebridge) yn un ward, i’w chynrychioli gan ddau gynghorydd.
Nododd fod y Comisiwn wedi cynnig yr enw uniaith Saltney ar gyfer y ward, a bod Comisiynydd y Gymraeg yn cytuno â’r enw arfaethedig. Cafodd y Comisiwn gynrychiolaethau gan y Cyngor ac eraill yn pwysleisio pwysigrwydd “enwau hanesyddol”, ac y dylai Saltney Ferry fod yn rhan o unrhyw enw a argymhellir ar gyfer y ward newydd. O ganlyniad, argymhellodd y Comisiwn yr enw unigol Saltney Ferry ar gyfer y ward etholiadol hon.
Mae Atodiad 5 yr adroddiad yn rhoi manylion am gynrychiolaethau a wnaed i'r Comisiwn gan gynghorwyr, trigolion a phartïon â buddiant. Galwodd dau o drigolion ac un cynghorydd tref am enw gwahanol i'r un a gynigiwyd gan y Comisiwn, sef Saltney a Saltney Fferi.
Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn nodi’r cynrychiolaethau a wnaed gan rai ynghylch yr enw arfaethedig ar gyfer y ward, a:
gofynnodd fy swyddogion am gadarnhad gan y Comisiwn ynghylch yr enw a argymhellwyd. Cadarnhawyd mai bwriad y Comisiwn oedd i’r ward etholiadol gael ei henwi’n Saltney Ferry, nid Saltney a Saltney Fferi.
Aiff y Gweinidog ymlaen i ddweud:
Wrth ddod i'm penderfyniad, ystyriais yr holl wybodaeth oedd ar gael, gan gynnwys tri sylw yn cynnig bod yr enw Saesneg yn cael ei newid o Saltney Ferry i Saltney and Saltney Ferry. Ar yr achlysur hwn, penderfynais weithredu argymhelliad y Comisiwn i enwi’r ward etholiadol yn Saltney Ferry heb unrhyw addasiad. Yn yr achos hwn, ni wnaeth y Comisiwn unrhyw argymhellion i newid y trefniadau cymunedol ac felly maent yn aros fel yr ydynt ar hyn o bryd.
Mae’r broses adolygu bellach wedi’i chwblhau, ac mae awdurdodau lleol wrthi’n rhoi’r trefniadau newydd ar waith, sydd wedi’u nodi mewn Gorchmynion, i gynnal yr etholiadau lleol ar 5 Mai 2022. Serch hynny, mae’r Gweinidog yn nodi yn ei llythyr, er nad ei bwriad yw ailedrych ar y penderfyniadau a wnaed, y bydd adolygiadau yn y dyfodol yn cael eu cynnal ‘yn rheolaidd’, ac y bydd adolygiadau:
yn agored i Aelodau'r Senedd, y cyngor, cymunedau a thrigolion gyflwyno cynigion ar gyfer newid fel rhan o unrhyw adolygiad yn y dyfodol.
Mae gorchmynion a rheoliadau a wneir o dan adrannau 37 i 39, a 43 o Ddeddf 2013 (ac eithrio adran 37(1) a 41(1)), yn ddarostyngedig i'r gofynion a'r gweithdrefnau a nodir yn yr adrannau hynny ac adrannau cysylltiedig yn unig. Yn ymarferol, yr hyn y mae hyn yn ei olygu yw y gellir meddwl am y rhain fel offerynnau statudol 'dim gweithdrefn ac, o'r herwydd, nid ydynt yn destun gwaith craffu gan y Senedd drwy naill ai'r weithdrefn negyddol neu gadarnhaol.
Fodd bynnag, dylid nodi bod y gweithdrefnau penodol a nodir yn yr adrannau perthnasol yn gosod nifer o ofynion sy’n debyg i ofynion craffu, fel ymgynghori â phartïon penodedig, terfynau amser, a lle maent yn cael eu gwneud heblaw gan Lywodraeth Cymru, cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
Felly, bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid gweithredu argymhellion y Comisiwn drwy Orchymyn, gydag addasiadau neu hebddynt – neu ddim o gwbl yn dilyn cyfnod o gyflwyno sylwadau.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |